Gwasanaeth Cyfieithu Proffesiynol

Fel cyfieithydd profiadol, rwyf yn cynnig ystod o wasanaethau o’r radd flaenaf gan gynnwys cyfieithu, prawfddarllen, golygu, ac isdeitlo.

Beth bynnag fo’r pwnc neu’r amserlen, cysylltwch i drafod eich anghenion.

Cefndir

Yn dilyn graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Ieithyddiaeth, roeddwn yn awyddus i gyfuno fy nyheadau proffesiynol gyda fy angerdd am hybu a hyrwyddo’r Gymraeg. Es ymlaen i weithio fel cyfieithydd yn y sector cyhoeddus, cyn penderfynu canolbwyntio’n llawn amser ar fy musnes cyfieithu.

Rwyf wedi fy lleoli yng Nghaernarfon, ac ers hynny wedi gweithio i ystod o gleientiaid yn y DU ac yn Ewrop, yn y sectorau preifat a chyhoeddus, boed yn gyfieithu safonol, prawfddarllen, golygu, isdeitlo neu drawsgrifio.

Rwyf hefyd yn aelod o  Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Cysylltwch