Gwasanaethau Iaith
Gwasnaeth Cyfieithu Cymraeg cyflym a hyblyg.
Fel cyfieithydd achrededig rwyf yn cynnig ystod o wasanaethau iaith Gymraeg gan gynnwys cyfieithu, prawfddarllen, isdeitlo a golygu.
Beth bynnag fo’r pwnc neu’r amserlen, cysylltwch i drafod eich anghenion.
Gwasanaethau
-
Cymraeg > Saesneg
Saesneg > Cymraeg
-
Prawfddarllen testun Cymraeg neu Saesneg
-
Darparu isdeitlau o safon yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
-
Cysylltwch ynghylch unrhyw anghenion iaith eraill sydd gennych.
Amdanaf
Yn dilyn graddio o Brifysgol Bangor yn 2020 gyda gradd mewn Ieithyddiaeth, roeddwn yn awyddus i gyfuno fy nodau proffesiynol gyda fy angerdd am hybu a hyrwyddo’r Gymraeg. Es ymlaen i weithio fel cyfieithydd yn y sector cyhoeddus, cyn penderfynu canolbwyntio’n llawn amser ar fy musnes cyfieithu yn 2022.
Rwyf wedi fy lleoli yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru, ac ers hynny wedi gweithio i ystod o gleientiaid yn y DU ac yn Ewrop, yn y sectorau preifat a chyhoeddus, boed yn gyfieithu safonol, prawfddarllen, golygu, isdeitlo neu drawsgrifio.
Rwyf hefyd yn aelod safonol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.